Diolch am eich diddordeb mewn mynychu'r digwyddiad nesaf yn ein cyfres Golwg ar Ddiwydiant a fydd i gyd yn ymwneud â Thechnoleg Ymgolli. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn trafod beth yw technoleg ymgolli, sut y gall gael effaith ar eich busnes, a chlywed am rai cydweithrediadau yn y byd go iawn y mae'r brifysgol wedi bod yn rhan ohono. Byddwch hefyd yn cael cyfle i brofi Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR), a Realiti Cymysg (MR).